Wednesday 16 December 2009

Roots

Had a good meeting today with my colleague Rhian Linecar concerning the possibility of developing Welsh language Roots materials. It was good to welcome Rosie from Roots to Cardiff.

Cafwyd cyfarfod da heddiw gyda fy nghydweithiwr Rhian Linecar yn trafod y posibilrwydd o ddatblygu deunydd Cymraeg o Roots. Braf oedd cael croesawu Rosie o Roots i Gaerdydd.

Aled Edwards

Tuesday 15 December 2009

Llywelyn ap Gruffudd

Had a great day on Sunday speaking at the memorial service of Llywelyn the Last at Cwm Hir Abbey. Really enjoyed the carol service on the Lightship today and wish Monica and Peter Mills well as they move back to England.

Cytun held a meeting of its International Committee today.

Cefais ddiwrnod braf ddydd Sul yn pregethu yng ngwasanaeth coffa Llywelyn ein Llyw Olaf yn Abaty Cwm Hir. Roedd y gwasanaeth carolau a gafwyd ar fwrdd y Goleulong heddiw yn fendithiol a dymunwn yn dda i Monica a Peter Mills wrth iddyn nhw ddychwelyd i Loegr.

Cynhaliodd Cytun gyfarfod o'i Bwyllgor Rhyngwladol heddiw.

Aled Edwards

Friday 11 December 2009

John Roberts - Trawsfynydd

Last night, Thursday 10th December 2009, a unique bilingual Mass was held in a small Church in Dolgellau, launching a year of celebrations for Saint John Roberts, of Trawsfynydd, who was executed 400 years ago at Tybyrn. Present at the Mass were Bishop Edwin Regan, the Dolgellau Nuns of the Carmelite Order and Father Joshy, the Parish Priest who originates from India and who is learning Welsh. Father Joshy also took part in the opening service at this year’s National Eisteddfod in Bala. The year of celebrations will run from the 10th of December 2009 until the 10th of December 2010. The sequence of events taking place throughout the year will lead up to a landmark event to be held in Westminster Cathedral, London on 17th July 2010 where, for the first time ever, the Head of the Catholic Church, Archbishop of Westminster Vincent Nichols, and Head of the Anglican Church, Archbishop of Canterbury Rowan Williams, will unite with Wales’ religious leaders to celebrate the life of one of Wales’ Saints.


Neithiwr, 10 Rhagfyr, cynhelwyd Offeren unigryw dwyieithog yn Eglwys fechan Dolgellau i lansio blwyddyn o ddathliadau Sant John Roberts, o Drawsfynydd, a gafodd ei ddienyddio 400 mlynedd yn ôl yn Tybyrn. Yn presenol yn yr Offeren oedd Esgob Edwin Regan, lleianod Urdd y Carmeliaid yn Nolgellau a’r Offeiriad Plwyf, y Tad Joshy, sy’n wreiddiol o’r India, ac wrthi’n dysgu Cymraeg yn rhyfeddol. Y Tad Joshy oedd hefyd yn traddodi’r fendith yn y gwasanaeth agoriadol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni. Bydd blwyddyn y dathliadau yn rhedeg o 10 Rhagfyr 2009 hyd 10 Rhagfyr 2010. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn arwain at ddigwyddiad hanesyddol yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain fis Gorffennaf 2010 lle, am y tro cyntaf erioed, bydd pennaeth yr Eglwys Gatholig, Archesgob Westminster Vincent Nichols, a phennaeth yr Eglwys Anglicanaidd, Archesgob Caergaint Rowan Williams, yn uno ag arweinwyr crefyddol Cymru i ddathlu bywyd un o seintiau Cymru.

Thursday 10 December 2009

Covenant Progress / Datblygu'r Cyfamod

Yesterday, key Church leaders met to discuss the future of the Commission of the Covenanted Churches. Good progress was made.

Ddoe, daeth nifer o arweinyddion eglwysig allweddol at ei gilydd i drafod dyfodol Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol. Symudwyd ymlaen.
Aled Edwards

Tuesday 8 December 2009

Rhodri Morgan

After a week's holiday, it was good to enjoy the Inter-faith Eisteddfod on Saturday and to preach at Bethania Church, Mountain Ash on Sunday afternoon. Last night, it was an honour to attend the farewell reception for Rhodri Morgan. I wish Rhodri and Julie well for the future.

Today, I had a staff meeting and cleared over 100 emails!

Ar ol wythnos o wyliau, profiad braf oedd mynychu'r Eisteddfod Rhyng-ffydd ddydd Sadwrn a phregethu yn Bethania, Aberdar brynhawn Sul. Neithiwr, anrhydedd oedd cael mynychu derbyniad ffarwelio Rhodri Morgan. Rydym yn dymuno'n dda i Rhodri a Julie ar gyfer y dyfodol.

Heddiw, cafwyd cyfarfod staff a chlirio dros gant o ebyst!

Aled Edwards

Friday 27 November 2009

Covenant / Cyfamod

Just enjoyed two encouraging days planning the way ahead for the Commission of the Covenanted Churches. The focus is on the visible unity of the churches. I'm on my way to enjoying a meal with Christian friends from Wales' ethnic minorities.

Newydd fwynhau dau ddiwrnod yn llywio'r ffordd ymlaen ar gyfer Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol. Ceir ffocws ar undeb gweladwy'r eglwysi. Dwi ar y ffordd i fwynhau pryd o fwyd gyda chyfeillion Cristnogol o leiafrifoedd ethnig Cymru.

Aled Edwards

Tuesday 24 November 2009

Good Discusions / Trafodaethau Da

I'm back from a week's break and the launch of the All Wales Convention Report. Over the past two days Cytun has served the Free Church Council of Wales, held discussions with the Welsh Assembly Government concerning religious education and shared fellowship with friends from the Elim tradition.

Dwi yn ol ar ol wythnos o wyliau a chyhoeddi Adroddiad Confensiwn Cymru'n Gyfan. Dros y deuddydd diwethaf gwasanaethodd Cytun Gyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, cynnal trafodaethau gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru ynghylch addysg grefyddol a rhannu cymdeithas a chyfeillion o'r traddodiad Elim.

Aled Edwards

Friday 13 November 2009

Synod

The new Cytun website is getting there. Tomorrow is a day with the United Reformed Church in Rhayader and their National Synod.

Mae gwefan newydd Cytun yn dod yn ei flaen. Yfory, ceir diwrnod gyda'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yn Rhaeadr ar gyfer eu Synod Cenedlaethol.

Aled Edwards

Thursday 12 November 2009

Faith Schools

Noticed in today's Western Mail that one of the candidates for the Labour leadership in Wales wants faith schools to wither. We'll pray about that.

Wedi sylwi bod un o'r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur yng Nghymru am adael i ysgolion ffydd ballu. Fe weddiwn ynghylch hyn

Aled Edwards

Friday 6 November 2009

Braille Bible / Beibl Braille

Really pleased that the appeal is going well. Im off this weekend to Llandudno via the All Blacks. Cytun will be praying for the Rev Gill Dallow on her commisioning to the Bay Chaplaincy.

Yn hynod o falch bod yr apel yn mynd yn dda. Dwi i ffwrdd y penwythnos yma i Landudno ar ol y Teirw Duon. Bydd Cytun yn gweddio dros y Parchedig Gill Dallow wrth iddi gael ei chomisiynu i Gaplaniaeth y Bae.

Migration Issues / Materion Mewnfudo

Yesterday was mainly spent in Newport on the Wales Strategic Migration Partnership. Links with these partners helped Cytun to successfully process the visa appeal of a young Pategonian of Welsh background.

Aeth ddoe heibio yn bennaf ar gyfarfod o'r Partneriaeth Strategol Mewnfudo yng Nghasnewydd. Galluogodd cysylltiadau a'r partneriaethau hyn Cytun i brosesu'n llwyddiannus apel am fisa gan wraig ifanc Gymreig ei chefndir o Patagonia.

Tuesday 3 November 2009

Christians Against Torture / Cristnogion yn Erbyn Poenydio

This morning I had a great time speaking of Christians Against Torture at Plas Mawr School, Cardiff.

Y bore yma, cefais amser gwych yn trafod Cristnogion yn Erbyn Poenydio gyda Ysgol Plas Mawr, Caerdydd.

Aled Edwards

Friday 19 June 2009

Please Pray / Gweddiwch

Please pray for the Reverend Peter Trow who is unwell. Peter has been a source of great encouragement to Cytun since joining our team a few months ago in partnership with the United Reformed Church. We remember him and his family in our prayers.

Gofynnir am eich gweddiau dros y Parchedig Peter Trow nad yw'n dda ei iechyd. Bu Peter yn gyfrwng calondid mawr i Cytun ers iddo ymuno a'r tim rhai misoedd yn ol mewn partneriaeth a'r Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Cofiwn Peter a'i deulu yn ein gweddiau.

Wednesday 3 June 2009

European Elections / Etholiadau Ewropeaidd

"Faith Leaders Call on Electorate to Vote and Reaffirm a Welcoming Wales"

On the eve of the European Elections in Wales, as an expression of personal conviction, national faith community leaders have encouraged the electorate in Wales to use their vote tomorrow. They have also reaffirmed their commitment to work for a welcoming Wales which values all its people and celebrates its diversity rejecting all political campaigning that creates prejudice and fear.

"Arweinyddion Ffydd yn Galw ar yr Etholwyr i Bleidleisio ac yn Ymrwymo i Gymru Groesawgar"

Ar y diwrnod cyn yr Etholiadau Ewropeaidd yng Nghymru, fel mynegiant o argyhoeddiad personol, y mae arweinyddion cymunedau ffydd cenedlaethol yn annog etholwyr Cymru i ddefnyddio eu pleidlais yfory. Y maent hefyd wedi ail-ymroi i’w hymrwymiad i weithio am Gymru groesawgar sy’n gwerthfawrogi ei holl bobl ac sy’n dathlu ei hamrywiaeth gan ymwrthod a phob math o ymgyrchu gwleidyddol sy’n creu rhagfarn ac ofn.


Signatories / Wedi ei Arwyddo gan:

Most Revd Dr / Parchedicaf Ddr Barry Morgan,
Most Revd/ Parchedicaf Peter Smith LLB, JCD,
Revd Dr / Parchedig Ddr Geraint Tudur,
Revd / Parchedig Ifan Roberts,
Revd Dr/ Parchedig Ddr Stephen Wigley,
Revd / Parchedig Peter Noble,
Revd / Parchedig Martin Spain,
Revd / Parchedig Elfed Godding,
Revd / Parchedig Christopher Gillham,
Major / Uwch Gapten Peter Moran,
Revd / Parchedig Eva Knauf,
Catherine James,
Dr Patrick Coyle,
Revd / Parchedig Aled Edwards OBE,
Revd / Parchedig Alan Bayes,
Mrs Surinder Channa,
Mr Saleem Kidwai OBE,
Mr Alan Schwartz MBE,
Mr Naran Patel.

Thursday 30 April 2009

Urdd

Much of our time during the next few days will concentrate on the Urdd Eisteddfod in Cardiff both in terms of helping with the Opening Celebration and with the witness of the Churches throughout the week. We ask for your prayers and support.

Yn ystod y dyddiau nesaf byddwn yn hynod o brysur yn darparu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerdydd yn nhermau cynorthwyo gyda'r Dathliad Agoriadol a chyda thystiolaeth yr Eglwysi yn ystod yr wythnos. Gofynnwn am eich gweddiau a'ch cefnogaeth.

Friday 16 January 2009

Gaza

Cytun church leaders are considering the support that can be offered to the Church in Wales' statements especially concerning the dental unit in Gaza. Our thoughts and prayers are with all those affected by the current troubles.


Y mae arweinyddion eglwysi Cytun yn dwys ystyried y gefnogaeth ellir ei gynnig i ddatganiadu'r Eglwys yng Nghymru parthed yr uned ddeintyddol yn Gaza. Mae ein gweddiau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan yr helyntion presennol.

Tuesday 6 January 2009

Esgob Newydd / New Bishop

Cytun congratulates the Reverend Canon Gregory Cameron on his appointment as the new Bishop of Saint Asaph. We offer our prayers and best wishes for the future.


Hoffai Cytun longyfarch y Parchedig Ganon Gregory Cameron ar ei benodi'n Esgob newydd Llanelwy. Offrymwn ein gweddiau a'n dymuniadau da i'r dyfodol.