Wednesday 16 December 2009

Roots

Had a good meeting today with my colleague Rhian Linecar concerning the possibility of developing Welsh language Roots materials. It was good to welcome Rosie from Roots to Cardiff.

Cafwyd cyfarfod da heddiw gyda fy nghydweithiwr Rhian Linecar yn trafod y posibilrwydd o ddatblygu deunydd Cymraeg o Roots. Braf oedd cael croesawu Rosie o Roots i Gaerdydd.

Aled Edwards

Tuesday 15 December 2009

Llywelyn ap Gruffudd

Had a great day on Sunday speaking at the memorial service of Llywelyn the Last at Cwm Hir Abbey. Really enjoyed the carol service on the Lightship today and wish Monica and Peter Mills well as they move back to England.

Cytun held a meeting of its International Committee today.

Cefais ddiwrnod braf ddydd Sul yn pregethu yng ngwasanaeth coffa Llywelyn ein Llyw Olaf yn Abaty Cwm Hir. Roedd y gwasanaeth carolau a gafwyd ar fwrdd y Goleulong heddiw yn fendithiol a dymunwn yn dda i Monica a Peter Mills wrth iddyn nhw ddychwelyd i Loegr.

Cynhaliodd Cytun gyfarfod o'i Bwyllgor Rhyngwladol heddiw.

Aled Edwards

Friday 11 December 2009

John Roberts - Trawsfynydd

Last night, Thursday 10th December 2009, a unique bilingual Mass was held in a small Church in Dolgellau, launching a year of celebrations for Saint John Roberts, of Trawsfynydd, who was executed 400 years ago at Tybyrn. Present at the Mass were Bishop Edwin Regan, the Dolgellau Nuns of the Carmelite Order and Father Joshy, the Parish Priest who originates from India and who is learning Welsh. Father Joshy also took part in the opening service at this year’s National Eisteddfod in Bala. The year of celebrations will run from the 10th of December 2009 until the 10th of December 2010. The sequence of events taking place throughout the year will lead up to a landmark event to be held in Westminster Cathedral, London on 17th July 2010 where, for the first time ever, the Head of the Catholic Church, Archbishop of Westminster Vincent Nichols, and Head of the Anglican Church, Archbishop of Canterbury Rowan Williams, will unite with Wales’ religious leaders to celebrate the life of one of Wales’ Saints.


Neithiwr, 10 Rhagfyr, cynhelwyd Offeren unigryw dwyieithog yn Eglwys fechan Dolgellau i lansio blwyddyn o ddathliadau Sant John Roberts, o Drawsfynydd, a gafodd ei ddienyddio 400 mlynedd yn ôl yn Tybyrn. Yn presenol yn yr Offeren oedd Esgob Edwin Regan, lleianod Urdd y Carmeliaid yn Nolgellau a’r Offeiriad Plwyf, y Tad Joshy, sy’n wreiddiol o’r India, ac wrthi’n dysgu Cymraeg yn rhyfeddol. Y Tad Joshy oedd hefyd yn traddodi’r fendith yn y gwasanaeth agoriadol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni. Bydd blwyddyn y dathliadau yn rhedeg o 10 Rhagfyr 2009 hyd 10 Rhagfyr 2010. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn arwain at ddigwyddiad hanesyddol yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain fis Gorffennaf 2010 lle, am y tro cyntaf erioed, bydd pennaeth yr Eglwys Gatholig, Archesgob Westminster Vincent Nichols, a phennaeth yr Eglwys Anglicanaidd, Archesgob Caergaint Rowan Williams, yn uno ag arweinwyr crefyddol Cymru i ddathlu bywyd un o seintiau Cymru.

Thursday 10 December 2009

Covenant Progress / Datblygu'r Cyfamod

Yesterday, key Church leaders met to discuss the future of the Commission of the Covenanted Churches. Good progress was made.

Ddoe, daeth nifer o arweinyddion eglwysig allweddol at ei gilydd i drafod dyfodol Comisiwn yr Eglwysi Cyfamodol. Symudwyd ymlaen.
Aled Edwards

Tuesday 8 December 2009

Rhodri Morgan

After a week's holiday, it was good to enjoy the Inter-faith Eisteddfod on Saturday and to preach at Bethania Church, Mountain Ash on Sunday afternoon. Last night, it was an honour to attend the farewell reception for Rhodri Morgan. I wish Rhodri and Julie well for the future.

Today, I had a staff meeting and cleared over 100 emails!

Ar ol wythnos o wyliau, profiad braf oedd mynychu'r Eisteddfod Rhyng-ffydd ddydd Sadwrn a phregethu yn Bethania, Aberdar brynhawn Sul. Neithiwr, anrhydedd oedd cael mynychu derbyniad ffarwelio Rhodri Morgan. Rydym yn dymuno'n dda i Rhodri a Julie ar gyfer y dyfodol.

Heddiw, cafwyd cyfarfod staff a chlirio dros gant o ebyst!

Aled Edwards