Friday 11 December 2009

John Roberts - Trawsfynydd

Last night, Thursday 10th December 2009, a unique bilingual Mass was held in a small Church in Dolgellau, launching a year of celebrations for Saint John Roberts, of Trawsfynydd, who was executed 400 years ago at Tybyrn. Present at the Mass were Bishop Edwin Regan, the Dolgellau Nuns of the Carmelite Order and Father Joshy, the Parish Priest who originates from India and who is learning Welsh. Father Joshy also took part in the opening service at this year’s National Eisteddfod in Bala. The year of celebrations will run from the 10th of December 2009 until the 10th of December 2010. The sequence of events taking place throughout the year will lead up to a landmark event to be held in Westminster Cathedral, London on 17th July 2010 where, for the first time ever, the Head of the Catholic Church, Archbishop of Westminster Vincent Nichols, and Head of the Anglican Church, Archbishop of Canterbury Rowan Williams, will unite with Wales’ religious leaders to celebrate the life of one of Wales’ Saints.


Neithiwr, 10 Rhagfyr, cynhelwyd Offeren unigryw dwyieithog yn Eglwys fechan Dolgellau i lansio blwyddyn o ddathliadau Sant John Roberts, o Drawsfynydd, a gafodd ei ddienyddio 400 mlynedd yn ôl yn Tybyrn. Yn presenol yn yr Offeren oedd Esgob Edwin Regan, lleianod Urdd y Carmeliaid yn Nolgellau a’r Offeiriad Plwyf, y Tad Joshy, sy’n wreiddiol o’r India, ac wrthi’n dysgu Cymraeg yn rhyfeddol. Y Tad Joshy oedd hefyd yn traddodi’r fendith yn y gwasanaeth agoriadol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala eleni. Bydd blwyddyn y dathliadau yn rhedeg o 10 Rhagfyr 2009 hyd 10 Rhagfyr 2010. Bydd cyfres o ddigwyddiadau yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn arwain at ddigwyddiad hanesyddol yng Nghadeirlan Westminster yn Llundain fis Gorffennaf 2010 lle, am y tro cyntaf erioed, bydd pennaeth yr Eglwys Gatholig, Archesgob Westminster Vincent Nichols, a phennaeth yr Eglwys Anglicanaidd, Archesgob Caergaint Rowan Williams, yn uno ag arweinwyr crefyddol Cymru i ddathlu bywyd un o seintiau Cymru.