Friday 22 January 2010

Election / Etholiad

Eleven Churches and Church agencies have worked together to create an electronic booklet and website www.churcheselection.org.uk, which includes information on how to arrange a hustings meeting at local churches as well as a downloadable guide offering information on the important questions of this election campaign.

The election materials do not support a particular Church view or political party line, but aim to help people engage with a range of important issues facing the country, however they may decide to vote.

Rachel Lampard, Public Issues Policy Adviser for the Methodist Church who worked on the resources produced by Methodist Publishing and Churches Together in Britain and Ireland, said: “We hope that the website will really help Christians engage with the election. The Faith in Politics booklet covers a whole range of policy issues, written by leading Christian experts and campaigners. The website also carries new guidance for groups wishing to hold hustings events during the election campaign, enabling people to register their interest in organising a hustings event and be put in touch with others in their constituency. We hope churches up and down the country will take advantage of these ecumenical resources.”

Faith in Politics covers issues including the economy, environment, health, education, equality and diversity, Europe, migration and sanctuary, poverty and criminal justice. The resource also provides a series of questions to facilitate personal or group reflection on political issues, or which could be used to quiz election candidates.

The Revd Dr Malcolm Brown, Director of the Church of England's Mission and Public Affairs Division, said: “I really hope these resources will be used by churches across the country to help them get ready for the General Election. They provide a rich range of material from which Christians and others can explore policy areas and form questions for their parliamentary candidates. The material points to the breadth of the impact that Westminster politics can have on the life of the nation, and I hope it will stimulate searching questions that will in turn help people make an informed judgement about how they use their vote.”

The Revd Bob Fyffe, General Secretary of Churches Together in Britain and Ireland, said “These resources will provide a rich source of information for churches and Churches Together groups across the four nations. The combination of these resources together with the online hustings information should ensure that Christians around the UK can fully engage in discussions with their prospective parliamentary candidates. The fact that the Churches have worked together to provide these resources is a strong statement in itself, and we hope that local churches and groups will fully engage in the democratic process.”

Mae un ar ddeg o Eglwysi ac asiantaethau Eglwysig wedi cydweithio er mwy creu llyfryn electronig a gwefan www.churcheselection.org.uk, sy’n cynnwys gwybodaeth ar sut i drefnu cyfarfod hustyngau mewn eglwysi lleol, yn ogystal â chanllaw i’w lwytho i lawr, yn cynnig gwybodaeth ar gwestiynau pwysig yr ymgyrch etholiadol hwn.

Nid yw’r deunyddiau etholiadol yn cefnogi barn Eglwys neilltuol na safbwynt plaid wleidyddol, ond eu bwriad yw helpu pobl i fynd i’r afael ag amrediad o faterion pwysig sy’n wynebu’r wlad, pa ffordd bynnag y byddan nhw’n penderfynu bwrw’u pleidlais.

Dywedodd Rachel Lampard, Ymgynghorydd Materion Polisi'r Eglwys Fethodistaidd, a weithiodd ar yr adnoddau a gynhyrchwyd gan Methodist Publishing ac Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon: “Rydym yn gobeithio y bydd y wefan yn help go iawn i Gristnogion i fynd i’r afael â’r etholiad. Mae’r llyfryn Faith in Politics yn trafod amrediad o faterion polisi, wedi’u hysgrifennu gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr Cristnogol blaenllaw. Mae’r wefan hefyd yn cynnwys canllawiau newydd i grwpiau sydd am gynnal digwyddiadau hustyngau yn ystod yr ymgyrch etholiadau, gan alluogi pobl i gofrestru eu diddordeb mewn trefnu digwyddiad hustyngau a dod i gysylltiad ag eraill yn eu hetholaeth. Rydym yn gobeithio y bydd eglwysi ar hyd a lled y wlad yn manteisio ar yr adnoddau eciwmenaidd hyn.”

Mae Faith in Politics yn trafod materion yn cynnwys yr economi, amgylchedd, iechyd, addysg, cydraddoldeb ac amrywiaeth, Ewrop, ymfudo a lloches, tlodi a chyfiawnder troseddol. Mae’r adnodd hefyd yn cynnig cyfres o gwestiynau er mwyn hwyluso myfyrdod personol neu grŵp ar faterion gwleidyddol, neu y gellid eu defnyddio er mwyn holi ymgeiswyr etholiadol.
Dywedodd y Parchedig Ddr Malcolm Brown, Cyfarwyddwr Adran Cenhadaeth a Materion Cyhoeddus Eglwys Loegr: “Rydw i wir yn gobeithio y bydd eglwysi ar draws y wlad yn defnyddio’r adnoddau hyn i’w helpu i baratoi ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol. Maen nhw’n darparu amrediad cyfoethog o ddeunyddiau y gall Cristnogion ac eraill eu defnyddio er mwyn archwilio meysydd polisi a llunio cwestiynau ar gyfer eu hymgeiswyr seneddol. Mae’r deunydd yn arwydd o hyd a lled yr effaith y gall gwleidyddiaeth San Steffan ei gael ar fywyd y genedl, ac rwy’n gobeithio y bydd yn sbarduno cwestiynau craff fydd yn eu tro yn helpu pobl i wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â sut i ddefnyddio’u pleidlais.”

Dywedodd y Parchedig Bob Fyffe, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwysi Ynghyd ym Mhrydain ac Iwerddon, “Bydd yr adnoddau hyn yn darparu ffynhonnell gyfoethog o wybodaeth ar gyfer eglwysi a grwpiau Eglwysi Ynghyd ar draws y pedair cenedl. Dylai cyfuno’r adnoddau hyn gyda’r wybodaeth ar-lein am hustyngau sicrhau bod Cristnogion o amgylch y DU yn gallu ymwneud yn llawn mewn trafodaethau gyda’u darpar ymgeiswyr seneddol. Mae’r ffaith bod yr Eglwysi wedi cydweithio er mwyn darparu’r adnoddau hyn yn ddatganiad cryf ynddo’i hun, ac rydym yn gobeithio y bydd grwpiau ac eglwysi lleol yn ymwneud yn llawn â’r broses ddemocrataidd.”